Neidio i'r cynnwys

Evan Jones (cenhadwr)

Oddi ar Wicipedia
Evan Jones
Ganwyd14 Mai 1788 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 1872 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler Evan Jones (gwahaniaethu).

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ymgyrchydd hawliau ac ieithydd oedd Evan Jones (14 Mai, 178818 Awst, 1872).

Cafodd ei eni yn sir Frycheiniog (Powys). Symudodd i Lundain ar ôl priodi, ac yna ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1821, lle treuliodd 50 mlynedd fel cenhadwr ymysg y Cherokee. Bu'n byw yn eu mysg, yn ymgyrchu'n wleidyddol ar eu rhan a bu hefyd yn weinidog iddynt, gan gyfieithu'r Beibl i'r iaith Cherokee a chyhoeddi papurau newydd yn yr iaith. Bu Evan Jones, ac yn nes ymlaen gyda'i fab John, yn gyfrifol am droi mwy o Indiaid America at Gristnogaeth nag unrhyw genhadon Protestannaidd eraill yn America.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Erthygl am Evan Jones Archifwyd 2010-07-20 yn y Peiriant Wayback ar Encyclopedia of Oklahoma History & Culture. (Saesneg)
  • William G. McLoughlin, Champions of the Cherokees: Evan and John B. Jones (Princeton, NJ: Princeton University Press, 1990)